Taliadau Uniongyrchol

Taliad Uniongyrchol yw arian gan y Cyngor i gynorthwyo unigolion a’u gofalwyr i drefnu a thalu am gefnogaeth i ddiwallu eu hanghenion a aseswyd a chyflawni canlyniadau lles y cytunwyd arnynt.

Gall bron iawn bawb sy’n gymwys i gael gofal a chymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol gael Taliad Uniongyrchol.

Bu Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn gweithio gyda Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan i ddatblygu taflenni sy’n egluro pwy allai fod yn gymwys am Daliadau Uniongyrchol a sut maent yn gweithio.

Fe allai’r adnodd hwn eich helpu i ystyried sut y byddwch yn defnyddio eich Taliad Uniongyrchol. 

Cymorth i reoli eich Taliadau Uniongyrchol

Mae cymorth ar gael i’ch helpu i’w defnyddio yn y ffordd orau i chi. Mae’r cymorth a geir yn edrych ychydig yn wahanol ym mhob un o siroedd Gogledd Cymru felly bydd angen i chi siarad gyda gweithiwr cymdeithasol neu wasanaeth cefnogi am y cymorth sydd ar gael i chi.

Mae llawer o bobl yn defnyddio eu Taliadau Uniongyrchol i dalu am Gynorthwy-ydd Personol.

Mae gan Gyngor Sir y Fflint wefan ddefnyddiol sy’n cynnig cyngor ar daliadau uniongyrchol i bobl yn Sir y Fflint a thu hwnt. Edrychwch ar y wefan yma.

Gellir defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer llawer mwy na Chynorthwywyr Personol. Dilynwch y ddolen hon i weld canllaw defnyddiol Anabledd Cymru. Mae’n cynnwys enghreifftiau o bobl yn “cyfuno” eu taliadau uniongyrchol er mwyn iddynt allu gwneud pethau gyda’i gilydd.

Mae Sir y Fflint hefyd wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn ar sut y gall pobl gyfuno eu taliadau uniongyrchol.

Mae rhai pobl yn gallu rheoli eu Taliadau Uniongyrchol eu hunain. Mae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd wedi datblygu’r cytundeb hawdd ei ddarllen hwn i bobl sydd â thaliad uniongyrchol.

Scroll to Top