Dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru yn dweud wrthym ni fod rhaid i ni ganolbwyntio ar yr unigolyn ym mhopeth a wnawn.

Mae canolbwyntio ar yr unigolyn yn golygu galluogi’r unigolyn ag anabledd dysgu i fod yn ganolog yn eu cynllun gofal a chymorth eu hunain, yn arbenigwr ar eu profiad eu hunain, a theilwra cefnogaeth i gyd-fynd â’r person, nid i’r gwrthwyneb.

Gan fod dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gyd yn ymwneud â helpu pobl i gael y gefnogaeth gywir iddyn nhw, fe welwch hefyd adnoddau a chefnogaeth sy’n adlewyrchu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy gydol yr adrannau eraill o fewn ‘Y Gefnogaeth Gywir’.

Yn yr adran hon fe welwch adnoddau a dolenni allweddol.

people sat in office around a desk with laptops

Cydlynwyr cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae gennym gynllun PCP rhanbarthol a luniwyd ar y cyd â phobl ag anableddau dysgu, eu gofalwyr, darparwyr a gwasanaethau.

Offerynnau meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae offerynnau meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi cael eu datblygu gan Helen Sanderson Associates ac wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus ers blynyddoedd lawer i gefnogi pobl i ystyried a chynllunio eu bywyd mewn ffordd ystyrlon.

Gallwch gael mynediad at yr holl offerynnau drwy wefan HSA (Helen Sanderson Associates)


Mae’r offerynnau meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gyfres o dempledi hawdd eu defnyddio a ddefnyddir i roi strwythur i sgyrsiau. Mae eu defnyddio’n ffordd ymarferol o gasglu gwybodaeth sy’n bwydo i mewn i’r cynllun sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ogystal â gwella dealltwriaeth, cyfathrebu a pherthnasau.

Scroll to Top