Cefnogaeth Weithredol
Mae Cefnogaeth Weithredol yn ymwneud ag ymgysylltu pobl yn eu bywydau eu hunain – gwneud gyda nid gwneud i. Mae’n cefnogi pobl i ymgysylltu mwy yn eu bywydau dyddiol, i ddysgu sgiliau newydd ac i ddod yn fwy annibynnol. Mae’n rhan bwysig o gefnogi pobl i fyw bywydau da.
Mae’r dull hwn yn cynnwys hyfforddwr neu arweinydd ymarfer yn cefnogi staff i gynnig cefnogaeth gyson sy’n helpu pobl ag anableddau dysgu i gynyddu eu sgiliau a’u hannibyniaeth.
Hyfforddiant Cefnogaeth Weithredol - Gall Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd eich cefnogi i ganfod y ffordd orau i hyfforddi eich staff ar gefnogaeth weithredol ac ar adegau mae cyllid ar gael i gefnogi hyn. Cysylltwch er mwyn darganfod mwy.
