Awtistiaeth a Niwrowahaniaeth
Mae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn cefnogi’r nod o wneud Cymru yn genedl sy’n gyfeillgar i niwrowahaniaeth.
Yn ôl y GIG digidol ac Autistica about 30% of people with a learning disability have also been diagnosed with autism. Some sources suggest that the overlaps between learning disabilities and neurodivergence may be much higher than this.
Gallwch ddysgu mwy am niwroamrywiaeth, niwrowahaniaeth ac awtistiaeth yma: https://neurodivergencewales.org/cy/.
Adnoddau Niwrogadarnhaol Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd
Mae nifer o’r bobl ag anableddau dysgu sydd wedi cyd-gynhyrchu adnoddau gyda Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd hefyd yn awtistig neu’n niwrowahanol ac mae ein hadnoddau wedi eu dylunio yn unol â’r nod o wneud Cymru yn genedl gyfeillgar i niwrowahaniaeth.
Er enghraifft wrth ddatblygu ein canllaw hawdd i’w ddarllen ‘Beth yw Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol?’ yn ddiweddar fe aethom ati i astudio papur y Tasglu Awtistiaeth Cenedlaethol ar Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol gan sicrhau ein bod yn ymgymryd â’u holl argymhellion yn ymwneud â sut mae pobl awtistig eisiau cael eu cefnogi yn ystod cyfnodau o drallod. Mae adborth gan bobl niwrowahanol yng Ngogledd Cymru wedi cynnwys sylw fod yr adnodd yn niwrogadarnhaol iawn.
Mae ein hyfforddiant newydd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol Da – Bywydau Da hefyd wedi ei ddylunio i fod yn niwrogadarnhaol drwyddo draw ac mae’n cynnwys adran lawn ar y pwysigrwydd o leihau straen a thrallod, gan gynnwys adran synhwyraidd o’r adnodd proffil niwroamrywiaeth rhanbarthol newydd i gefnogi dysgu yn ymwneud â deall a chefnogi gwahaniaethau synhwyraidd.


Dolenni Defnyddiol
Niwrowahaniaeth Cymru
https://neurodivergencewales.org/cy/
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru:
https://neurodivergencewales.org/cy/gwasanaeth-awtistiaeth-integredig/gogledd-cymru/
