Adnoddau Hyfforddiant Cefnogaeth Dda
Mae’r rhain yn adnoddau hyfforddiant sydd wedi’u datblygu mewn partneriaeth â phobl ag anableddau dysgu. Mae’r holl adnoddau’n seiliedig ar y gwerthoedd a’r ymddygiadau y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu disgwyl gan y bobl sy’n eu cefnogi.
Fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiadau Gogledd Cymru
Bu Tîm Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn gweithio gyda grŵp o bobl gydag anableddau dysgu o gefndiroedd gwahanol i gyd-gynhyrchu cyfres o werthoedd cyffredin ar gyfer gweithlu gofal cymdeithasol Gogledd Cymru.
Nod y rhaglen
Mae’r llun yn dangos canlyniadau’r gwaith hwn a sut y mae pobl ag anableddau dysgu’n disgwyl cael eu trin gan staff cefnogi. Mae’r llun yn dangos canlyniadau’r gwaith hwn a sut y mae pobl ag anableddau dysgu’n disgwyl cael eu trin gan staff cefnogi.
- Sut i’m trin yn dda
- Gadewch imi reoli fy mywyd fy hun
- Helpwch fi i gyrraedd fy mhotensial
- Byddwch yn onest

