Amdanaf i.
Fy enw i ydi Thomas, ac rydw i’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol i gyfrifydd. Rydw i’n mwynhau gwylio Formula 1 ar y teledu, ac rydw i’n cefnogi Clybiau Pêl-droed Manceinion Unedig a Wrecsam, ac yn mwynhau gwylio’r gemau. Rydw i’n hoffi mynd i’r sinema, a mynd allan gyda ffrindiau am bryd o fwyd a diod. Rydw i’n mwynhau bod yn annibynnol a chael bywyd llawn, diddorol.
Cyn y Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth…
Roeddwn i wedi gwirfoddoli, a chael swydd â thal cyn cyfarfod Mark (hyfforddwr swyddi HFT). Fe wnes i fwynhau cael fy incwm fy hun, felly roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau swydd arall am dâl. Roeddwn i’n chwilio am waith, ac yn gwneud cais am nifer o swyddi, ond yn ei chael hi’n anodd cael cyfweliad, roedd hyn yn eithaf digalon, ac arweiniodd at ysbryd isel.
Rydw i’n byw gyda fy rhieni, ond rydw i’n hoffi bod yn annibynnol, pan maent yn mynd ar wyliau, rydw i’n aros adref ac yn gofalu am gi’r teulu.
Man cychwyn fy siwrnai.
Roeddwn eisoes wedi gweithio, felly roeddwn yn gwybod fy mod i eisiau swydd â thal eto, roeddwn yn chwilio ac yn gwneud ceisiadau am swyddi, ond yn ei chael hi’n anodd cael cyfweliad, roeddwn yn gweithio gydag asiantaeth arall, ond nid oeddwn yn hapus, yna bu i mi gyfarfod gyda Sarah (EPC) ac fe gyflwynodd mi i Mark (hyfforddwr swyddi) o HFT. Roeddwn wedi gweithio mewn cegin o’r blaen, ond roedd yn gontract dim oriau, ac nid oedd yr oriau’n cael eu sicrhau bob amser, roeddwn eisiau mwy o sefydlogrwydd a gweithio yr un dydd bob wythnos, oherwydd roedd peidio cael yr un oriau’n wythnosol yn achosi straen a phryder.
Y gefnogaeth a gefais.
Mark oedd fy hyfforddwr swyddi, a phan adawodd o, fe gyflwynodd fi i Barry. Helpodd Barry fi i ganfod prawf gwaith, a helpodd fi gyda’r cyrsiau ar-lein roedd angen i mi eu cwblhau megis gwyngalchu arian. Mae pawb wedi bod yn agored a chyfeillgar, ac rydw i’n teimlo fel y gallaf gysylltu â nhw os oes gen i gwestiwn neu angen cefnogaeth. Mae fy hyfforddwr swyddi dal i gwrdd â mi a Jason (cyflogwr) bob wythnos, ond rydw i’n ffonio neu’n tecstio y mwyafrif o wythnosau.
Canfod y swydd iawn i mi.
Roeddwn i wedi gweithio mewn cegin ond roeddwn eisiau rhoi cynnig ar swydd mewn swyddfa. Cefais help Barry i ddod o hyd i brawf gwaith gyda Jason; mae o’n gyfrifydd. Mae gen i ddallineb rhifau felly roeddwn yn ansicr os fyddai hyn yn rhwystr. Ar ôl cwblhau fy mhrawf gwaith, cynigiodd Jason swydd barhaol i mi. Rydw i’n gweithio dau ddiwrnod yr wythnos a wir yn mwynhau.
Sut mae cael swydd wedi gwneud i mi deimlo.
Rydw i’n mwynhau bod yn annibynnol, ac mae fy swydd yn fy helpu gyda hyn. Mae gen i fy mhres fy hun, ac rydw i’n teimlo’n falch o’r hyn rydw i wedi ei gyflawni. Roeddwn ychydig yn bryderus y byddai fy nallineb rhifau yn fy rhwystro rhag cael swydd mewn swyddfa, ond mae gen i strategaethau ar waith sy’n fy helpu i weithio a bod yn llwyddiannus.
Roedd hi’n syniad da symud i gael swydd mewn swyddfa i mi, rydw i’n mwynhau fy amser yn y gwaith, mae gen i gyflogwr sy’n fy nghefnogi ac yn barod i weithio gyda mi, ac rydw i’n teimlo’n hapus.
Sut mae pethau’n mynd erbyn hyn.
Mae fy hyfforddwr swyddi yn dod i’r swyddfa unwaith yr wythnos i weld sut mae pethau’n mynd, ac yn gofyn i mi a Jason sut ydym ni, ac os oes arnom angen unrhyw help.
Os oes gen i gwestiwn, neu angen help gydag unrhyw beth, yna dw i’n ffonio neu’n tecstio a gallwn siarad neu gwrdd tu allan i’r gwaith. Ar hyn o bryd, mae fy hyfforddwr swyddi yn fy helpu i gael tocyn bws, mae o wedi cael ei wrthod, ond rydym yn casglu tystiolaeth er mwy herio’r penderfyniad. Yn wreiddiol roeddem yn gweithio o dŷ Jason, ond nawr mae ganddo swyddfa mewn adeilad, roedd y trosglwyddiad yn gwneud i mi deimlo ychydig yn bryderus i ddechrau, ond mae’n well o lawer rŵan. Mae’n haws i mi deithio i’r swyddfa newydd, ac mae gen i ddesg a gofod gwaith.
Os ydi rhywun yn meddwl am gael cefnogaeth i ganfod gwaith, byddwn yn dweud…
Byddwn yn dweud, ewch amdani; byddant yn eich helpu bob cam o’r ffordd. Gall deimlo’n llethol chwilio am swydd ar eich pen eich hun, a gallant roi cefnogaeth a chymorth i chi geisio pethau newydd, ac rydw i’n falch fod fy hyfforddwr wedi fy nghefnogi i chwilio am swyddi mewn swyddfa gan mai dyma’r dewis gorau i mi, ac rydw i’n hapus iawn yn fy swydd.
Feedback from Thomas’ employer
What has Tom brought to your workplace since starting employment with your business?
Tom has been a valuable addition to the team. He has helped with the workload and enabled me to focus more time on key compliance work. He is reliable, keen to learn, and contributes positively to the day-to-day running of the business.
What would you say to other employers about the benefits of employing a person with a learning disability?
People with learning disabilities are no different from anyone else starting a new role. With clear guidance and the right support, they learn in the way that works best for them and can become committed, capable members of the team. It’s important to focus on an individual’s strengths and potential rather than making assumptions.
How has employing someone through the North Wales Supported Employment Service benefited your business?
My main motivation was to provide an opportunity for both Tom and Hft as a local charity. As I have a disability, I understand first-hand the challenges disabled people can face when looking for work. Tom’s contribution has helped with the workload and allowed me to focus on key areas of the business. The support available through the North Wales Supported Employment Service and Hft also made it easier to provide a meaningful employment opportunity.
