Ap Ymwybyddiaeth Ofalgar

Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ymarfer syml ond pwerus sy’n golygu rhoi eich holl sylw i’r foment bresennol heb feirniadaeth. Mae’n golygu bod yn ymwybodol o’ch meddyliau, eich teimladau a’ch amgylchoedd gan ganolbwyntio mewn modd digyffro. is a simple yet powerful practice that involves paying full attention to the present moment without judgment. It’s about being aware of your thoughts, feelings, and surroundings in a calm and focused way.

Buddion i Deuluoedd, Rhieni / Gofalwyr, a Rhwydweithiau Cefnogaeth

Pecyn Gwaith Ymwybyddiaeth Ofalgar, Anableddau Dysgu a Lles
and Well-being Toolkit

Ap Chilltastic

Mae ap lles Chilltastic yn adnodd cefnogaeth iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ofalgar. Cafodd ei ddatblygu yn rhan o Brosiect Ymwybyddiaeth Ofalgar, Anableddau Dysgu a Lles Gogledd Cymru. Chilltastic wellbeing app is a mindfulness and mental health support tool developed as part of the North Wales Mindfulness, Learning Disabilities and Wellbeing Project.

Mae wedi ei ddylunio i fod yn gynhwysol a hygyrch, yn arbennig i unigolion ag anableddau dysgu, ond mae’n addas i bawb.

Nodweddion Allweddol Chilltastic

Mae’n cynnwys ymarferion anadlu sy’n addas i ddechreuwyr, trem fanwl ar y corff, a thechnegau ymwybyddiaeth ofalgar eraill y gall defnyddwyr eu dilyn wrth eu pwysau.

Mae’n cynnig pecyn gwaith y gellir ei lawrlwytho, sy’n cynnwys adnoddau a thechnegau ymarferol sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’r rhain wedi eu teilwra i fod yn ddiogel, maent yn canolbwyntio ar yr unigolyn, a gellir eu haddasu ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Mae gwneud ymarferion fel ‘Swigod Meddwl’, ‘Jar Gliter’, ‘Llysnafedd Meddylgarwch’ a ‘Llyfr Calon / Cadwyn Ddiolch’ yn helpu defnyddwyr i archwilio ymwybyddiaeth ofalgar mewn ffyrdd hwyliog, synhwyraidd.

Mae’r holl gynnwys wedi ei ddylunio i fod yn gynhwysol, gan gefnogi pobl o bob gallu, yn cynnwys pobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu.

Gall defnyddwyr ddewis pryd a sut i ddefnyddio’r ap, a dewis gweithgareddau sy’n addas ar gyfer eu hwyliau a’u hanghenion ar yr adeg honno.

Mae’r ap hefyd yn darparu adnoddau i helpu rhieni, gofalwyr, a staff cefnogi i gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar mewn arferion dyddiol a chynlluniau gofal.
Mae’r ap ar gael yn y Gymraeg a Saesneg, gan adlewyrchu ei wreiddiau yng Nghymru a’i ymrwymiad i hygyrchedd a chynwysoldeb.

Gellwch archwilio mwy neu roi cynnig arno’n uniongyrchol ar chilltasticapp.wales/cy neu ei lawrlwytho drwy Google Play Store ar eich dyfais Android. chilltasticapp.wales or download it via the Google Playstore to your Android device.

Scroll to Top