Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu yng Ngogledd Cymru (2024 i 2029)
Mae’r strategaeth, a luniwyd gyda Grŵp Partneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru, yn dangos sut all wasanaethau gofal cymdeithasol helpu pobl gydag anableddau dysgu i gael mynediad cyfartal at waith â thâl. Mae’n pwysleisio’r angen i weithio gyda gwasanaethau cyflogaeth â chymorth arbenigol. Mae’r strategaeth yn seiliedig at adborth gan bobl gydag anableddau dysgu ac yn dangos sut all swyddi sy’n cydweddu’n dda, effeithio’n gadarnhaol ar gynhwysiant, annibyniaeth ac iechyd a lles cyffredinol.
