Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru

Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru. Gweithredir y strategaeth trwy Wasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru. Fe’i darperir trwy bartneriaeth rhwng gwasanaethau gofal cymdeithasol y chwe awdurdod lleol ar gyfer pobl gydag anableddau a gwasanaethau cyflogaeth â chymorth lleol.

Ariennir y prosiect gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Gogledd Cymru hyd at 31 Mawrth, 2027.

Opening Doors to Employment: Jamie’s Story.

Nod y rhaglen

Creu Llwybrau Swyddi

Gwneud mynediad at waith â thâl yn ddewis amlwg mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ac ysgolion uwchradd arbennig.

Hyrwyddo Dull Gwaith yn Gyntaf

Newid diwylliant, systemau a phrosesau mewn gofal cymdeithasol i ganolbwyntio ar waith yn gyntaf.

Cefnogaeth a Gwybodaeth

Sicrhau fod gan bobl gydag anableddau dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr y gefnogaeth a’r wybodaeth iawn i benderfynu os yw gwaith â thâl yn addas ar eu cyfer nhw.

Herio Mythau

Chwalu mythau am allu pobl gydag anableddau dysgu i weithio

Cefnogaeth wedi’i Bersonoli

Cynnig cymorth unigol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer ceiswyr gwaith i ddod o hyd i, caffael, dysgu a chadw gwaith â thâl.

Ymgysylltu â Chyflogwyr

Gweithio gyda chyflogwyr lleol ac amlygu manteision o recriwtio pobl gydag anableddau dysgu.

Gwasanaethau Cyflogaeth â Chymorth

Darparwyr

Agoriad Cyf

Ynys Môn a Gwynedd

CoOptions

Sir Ddinbych a Chonwy

HFT Flintshire

Sir y Fflint a Wrecsam

Cynorthwyo

Cynorthwyo’r rhai a atgyfeirir gan y Cydlynwyr Llwybrau Cyflogaeth i ddod o hyd i gyflogaeth â thâl sy’n cydweddu.

Meithrin Cyswllt â Chyflogwyr

Ymgysylltu gyda chyflogwyr lleol a’u cefnogi nhw i recriwtio mwy o bobl gydag anableddau dysgu yn rhagweithiol.

Dilyn Safonau Ansawdd

Mae holl wasanaethau cyflogaeth â chymorth yn dilyn Safonau Cywirdeb Enghreifftiol y Fframwaith Ansawdd Cyflogaeth â Chymorth BASE UK, gwerthoedd craidd a safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer hyfforddwyr swyddi.

Llysgennad Cyfoedion

Peer Ambassadors are people with learning disabilities who use their lived experience to show the value of well‑matched paid work. Employed by the supported employment providers, they support new jobseekers, reassure families, and engage employers — demonstrating that with the right support, people with learning disabilities thrive in paid employment.

Ynys Môn & Gwynedd

Sir Ddinbych a Chonwy

Sir y Fflint a Wrecsam

Opening Doors to Employment: Freya’s story.

Gwerthusiad Rhaglen

Gwerthusiad Annibynnol

Mae Prifysgol Strathclyde wedi cael ei ddewis i werthuso’r Gwasanaeth Cyflogaeth a Chymorth yn annibynnol. Mae Dr. Adam Whitworth, arbenigwr mewn gwerthuso rhaglennu cyflogaeth â chymorth, yn arwain y tîm. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn manteision gofal cymdeithasol a gwasanaethau SEQF yn cydweithio.

Mae’r gwerthusiad yn canolbwyntio ar berfformiad gwasanaeth, newidiadau mewn gwasanaethau a systemau gofal cymdeithasol a manteision cost. Rhan allweddol o’r gwerthusiad yw deall sut mae iechyd a lles ceiswyr gwaith yn gwella wrth iddynt symud tuag at gyflogaeth â thâl.

Bydd y tîm yn creu adroddiadau gwerthuso blynyddol a fydd yn helpu’r partneriaid i wella’r gwasanaeth yn fyw.

Panel Dinasyddion

Mae Nexus CR wedi cael eu dewis i sefydlu a hwyluso’r panel dinasyddion. Mae’r aelodau oll yn bobl sydd â phrofiad byw o gael anabledd dysgu. Cânt eu talu am eu hamser.

Rôl y panel yw helpu partneriaid i rannu cynnydd gyda phobl gydag anableddau dysgu, cynghori’r tîm gwerthuso a darparu adborth ar faterion hygyrchedd.

Adroddiad Gwerthuso Interim Blwyddyn 1 Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru (Hydref 2025)

Mae Prifysgol Strathclyde wedi cynhyrchu adroddiad interim ar flwyddyn gyntaf ei gwerthusiad tair blynedd o Wasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae'r adroddiad yn dangos cynnydd da o ran integreiddio cyflogaeth â chymorth fel llwybr newydd mewn gwasanaethau gwaith cymdeithasol ac yn gorffen â 17 o argymhellion i barhau i wella a chyflawni'r canlyniadau gorau i unigolion sy’n chwilio am waith.

Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru - Gwerthusiad Hawdd ei Ddeall Blwyddyn 1 (2025)

Cynhyrchwyd Adroddiad Gwerthuso Hawdd ei Ddeall Blwyddyn 1 gan Brifysgol Strathclyde a’r Panel Dinasyddion. Mae’n rhannu profiadau pobl ag anableddau dysgu sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth ac yn cyflwyno’r 10 ffaith bwysicaf o’u hadborth.

Mae’r adborth yn dangos bod pobl yn gwerthfawrogi bod y gwasanaeth yn:

  • Gweithio ar eu cyflymder eu hunain heb unrhyw bwysau.
  • Eu grymuso i wneud eu dewisiadau eu hunain am waith.
  • Eu helpu i ddod o hyd i waith sy’n addas iddyn nhw ac yn gwneud eu bywyd yn well.
Scroll to Top