Good news stories
Across North Wales, people with learning disabilities are securing meaningful, well‑matched paid jobs through the North Wales Supported Employment Service — and these stories share their journeys in their own words. These stories and short films highlight the real difference well matched paid work can make to people’s wellbeing, confidence, independence and quality of life.
Ynys Môn a Gwynedd: Agoriad Cyf
Fy enw i ydi Megan, ac rydw i’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Cegin yn Nyffryn Nantlle. Rydw i’n mwynhau mynd am dro, mynd i’r sinema neu’r theatr, chwarae gemau fideo a mynd ar wyliau.
Rydw i wrth fy modd gyda fy swydd newydd. Mae’r shifftiau yn fy siwtio. Rydw i rŵan yn gweithio bob dydd, Dydd Llun i ddydd Gwener. Roedd yn anodd peidio gweithio am 6 mis ond rydw i nôl yn ei chanol hi erbyn hyn!
Fy enw i ydi Lewis, a dw i’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Cynhyrchu yn Hufenfa De Arfon. Rydw i’n mwynhau gwylio rygbi, mynd allan i gymdeithasu, garddio a thyfu fy llysiau fy hun.
Mae symud i gyflogaeth â thâl wedi rhoi rhywbeth positif i mi ganolbwyntio arno ac rydw i’n teimlo’n falch o’r hyn rydw i wedi’i gyflawni.
Sir Ddinbych a Chonwy: CoOptions
Fy enw i ydi Shayna, ac rydw i’n gweithio fel glanhawr ym Mhlanhigfa Bryn Euryn a’r Caffi. Rydw i’n hoffi mynd am dro, mynd i’r theatr a siopa, a chwrdd gyda fy ffrindiau a theulu.
Dw i’n fwy annibynnol rŵan ers cael mwy o arian, ac mae fy hyder wedi gwella wrth i fi arfer gyda’r bysiau. Testun newydd yr astudiaeth achos
Sir y Fflint a Wrecsam (ychwanegu HFT) - Sir y Fflint a Wrecsam: HFT
Fy enw i ydi Sophie ac rydw i’n weithiwr siop yn Nisa Local. Ar ôl gadael coleg preswyl, roeddwn i’n edrych ymlaen at gael fy swydd gyntaf. Mae cael swydd mewn siop yn bwysig iawn i mi, ‘dw i eisiau teimlo fel oedolyn go iawn a gweithio fel mae fy mam yn ei wneud, rŵan fy mod wedi cael swydd, mae fy mreuddwyd wedi dod yn wir, rydw i mor hapus a balch o’n hun.
Fy enw i ydi Natalie, ac rydw i’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Arlwyo ar gyfer Arlwyo Newydd. Rydw i’n fam sengl ac wrth fy modd yn treulio amser gyda fy mhlant. Rydw i wir wedi mwynhau fy swydd; mae fy hyder ynglŷn â gwneud y swydd wedi tyfu’n aruthrol, a dyma’r swydd iawn i mi.
Fy enw i ydi Thomas, ac rydw i’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol i gyfrifydd. Rydw i’n mwynhau gwylio Formula 1 ar y teledu, ac rydw i’n cefnogi Clybiau Pêl-droed Manceinion Unedig a Wrecsam, ac yn mwynhau gwylio’r gemau, mwynhau bod yn annibynnol, ac mae fy swydd yn helpu gyda hyn. Mae gen i fy mhres fy hun, ac rydw i’n teimlo’n falch o’r hyn rydw i wedi ei gyflawni.
