Amdanaf i.
Fy enw i ydi Sophie ac roeddwn i newydd adael coleg preswyl ac yn byw gartref gyda fy Mam a Nain. Roeddwn yn edrych ymlaen at ddod o hyd i fy swydd gyntaf â thâl!
Cyn y Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth…
Roeddwn mewn coleg preswyl lle wnes i brofiad gwaith mewn arlwyo a lletygarwch, felly roeddwn eisiau dod o hyd i swydd yn y meysydd yma. Ar ôl y coleg, symudais yn ôl i fyw gartref ac roeddwn yn byw gyda fy Mam a Nain. Roeddwn yn edrych ymlaen at ddod o hyd i fy swydd gyntaf â thâl.
Man cychwyn fy siwrnai.
Fy ngweithiwr cymdeithasol soniodd am y gwasanaeth cyflogaeth â chymorth. Fe wnaethant drefnu i mi gwrdd â Sarah, y Cydlynydd Llwybr Cyflogaeth. Daeth Sarah i fy nghartref i fy nghyfarfod. Roeddwn i’n swil i ddechrau, ond cymerodd Sarah ei hamser gyda mi, a dywedais wrthi fy mod i eisiau cael swydd yn y maes arlwyo neu letygarwch. Trefnodd Sarah fy mod yn cwrdd â Jen (hyfforddwr swyddi gyda HFT).
Y gefnogaeth a gefais.
Pan ddechreuais i weithio gyda fy hyfforddwr swyddi, roeddwn i wir eisiau cael swydd ym maes arlwyo neu letygarwch. Fe wnes i ymgeisio am lawer o swyddi ond ni chefais unrhyw gyfweliadau. Gan weithio gyda fy hyfforddwr swyddi, fe wnaeth hi fy helpu i sylweddoli bod fy sgiliau a phrofiad efallai yn fwy addas ar gyfer y sector manwerthu. Fe gymerodd beth amser i mi wneud fy meddwl i fyny yn iawn, ond roedd fy hyfforddwr swyddi’n amyneddgar iawn gan egluro hyn mewn ffordd y gallwn ei deall yn hawdd.
Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi ac nad oeddwn yn cael fy rhuthro wrth chwilio am waith. Ar ôl i mi benderfynu chwilio am swydd yn y sector manwerthu, dechreuais deimlo’n gyffrous am chwilio am waith eto!
Canfod y swydd iawn i mi.
Gyda fy nod newydd dechreuais i a fy hyfforddwr swyddi ymweld â siopau lleol i ofyn am swyddi gwag yn bersonol. Cynigiodd un o’r siopau gyfweliad i mi. Roeddent yn hapus i fy hyfforddwr swyddi ddod gyda mi. Fe helpodd fi i wneud y cwestiynau yn haws deall a gofynnodd i mi am fy sgiliau a fy mhrofiad. Cefais gynnig y swydd, a gwireddais fy mreuddwydion.
Pan ddechreuais fy swydd, fe helpodd fy hyfforddwr swyddi mi i ddysgu fy nyletswyddau a sut i reoli fy amser. Rŵan, dw i’n teithio i fy ngwaith ar fy mhen fy hun, ac yn gweithio mewn dwy siop. Mae fy hyfforddwr swyddi dal i alw heibio i weld sut mae pethau’n mynd.
Sut mae cael swydd wedi gwneud i mi deimlo.
Mae cael swydd mewn siop yn bwysig iawn i mi, ‘dw i eisiau teimlo fel oedolyn go iawn a gweithio fel mae fy mam yn ei wneud, rŵan fy mod wedi cael swydd, mae fy mreuddwyd wedi dod yn wir, rydw i mor hapus a balch o’n hun.
Mae’r rhaglen hon wedi fy helpu i’n fawr. Dwi wedi bod wrth fy modd â’r profiad, mae wedi bod yn wych. Dwi wedi dweud wrth fy ffrindiau i gyd am fy swydd ac am fy hyfforddwr swyddi gwych. Dwi wedi cael gwneud dewisiadau ac mae pobl wedi gwrando arnaf i. Pan nad ydw i wedi deall rhywbeth, mae fy hyfforddwr swyddi wedi bod yn amyneddgar gyda mi ac wedi egluro pethau mewn ffordd wahanol.
Os ydi rhywun yn meddwl am gael cefnogaeth i ganfod gwaith, byddwn yn dweud…
Rydw i’n teimlo ei bod hi’n bwysig i ddweud hefyd, hyd yn oed os nad ydych yn cael swydd tro cyntaf, daliwch ati ac mi gewch swydd yn y pendraw.
Byddwch yn agored i roi cynnig ar rolau gwahanol, efallai y dewch o hyd i’ch swydd berffaith.
