Amdanaf i.
Fy enw i ydi Shayna, ac rydw i’n gweithio fel glanhawr ym Mhlanhigfa Bryn Euryn a’r Caffi. Rydw i’n hoffi mynd am dro, mynd i’r theatr, siopa, a chwrdd gyda fy ffrindiau a theulu.
Cyn y Gwasanaethau Cyflogaeth â Chymorth…
Roeddwn i’n chwilio am waith. Dechreuais siarad gyda Kim (Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd) mewn cynhadledd yn y ganolfan fusnes yng Nghyffordd Llandudno a gofyn a oedd hi’n gwybod am unrhyw beth i helpu pobl ifanc gydag anableddau dysgu i gael swyddi.
Roeddwn yn gwirfoddoli, ond yn teimlo’n ddiflas, ac eisiau gwneud mwy, a mwy o bres ar ben beth roeddwn i’n cael fy nhalu fel Cefnogwr Gwiriadau Iechyd gyda Chyswllt Conwy.
Man cychwyn fy siwrnai.
Cyflwynodd Kim fi i Craig (EPC) yn y ganolfan fusnes ac fe wnaethon nhw drefnu i fi ymuno â’r gwasanaeth cyflogaeth â chymorth. Roedd Craig yn help mawr ac fe gyflwynodd fi i Annie (CoOptions), a hi oedd fy hyfforddwr yn y swydd.
Y gefnogaeth a gefais.
Helpodd Annie fi gyda llunio CV a helpodd fi i edrych ar fy mudd-daliadau i weld beth allwn i’w wneud a beth fyddai’n gweithio i fi. Cefais help Annie i drefnu prawf o’r gwaith yn hytrach na chyfweliad ar gyfer swydd glanhau yn y blanhigfa.
Canfod y swydd iawn i mi.
Yn gyntaf, roeddwn i’n meddwl fy mod eisiau gweithio yn Primark. Fe wnaethon ni drio ond yna nes i newid fy meddwl. Ro’n i eisiau swydd lanhau achos dw i’n hoffi glanhau adref.
Roedd Primark eisiau oriau mawr ac ro’n i’n gwybod nad oedd hynny’n iawn i fi. Dyna pryd helpodd Annie fi i ddod o hyd i’r swydd hon yn gwybod fy mod i’n hoffi glanhau. Roedd yr oriau yn siwtio ac r’on i’n gallu gweithio yno a gweithio yn fy swydd arall yr un pryd.
Sut mae cael swydd wedi gwneud i mi deimlo.
Mae’r swydd hon wedi gwneud i mi deimlo’n hapus iawn; dw i’n mwynhau’n fawr. Mae’r staff yn y blanhigfa wedi gwneud llawer o ymdrech gyda fi, maen nhw’n gwneud yn siŵr fy mod i’n iawn pan rydw i’n gwneud fy swydd, yn glên ac yn barod i helpu.
Sut mae pethau’n mynd erbyn hyn.
Daeth Paige (fy hyfforddwr swyddi newydd) i mewn gyda fi ar gyfer fy sifftiau cyntaf, fe wnaethon ni edrych drwy’r ffeil a rhaid i fi roi tic yn erbyn fy holl swyddi. Mae’r tasgau yr un fath bob wythnos felly mae hynny wedi helpu. Dw i’n fwy annibynnol rŵan ers cael mwy o arian, ac mae fy hyder wedi gwella wrth i fi arfer gyda’r bysiau.
Os ydi rhywun yn meddwl am gael cefnogaeth i ganfod gwaith, byddwn yn dweud…
Ewch amdani, wir, oherwydd mae’r hyfforddwyr swyddi yn ddefnyddiol iawn. Dydy’r hyfforddwyr swyddi ddim yn eich brysio chi; maen nhw’n gofyn yn union beth sy’n eich siwtio chi a byddan nhw’n helpu gydag unrhyw beth.
Feedback from Shayna’s employer
What has been your experience of employing Shayna?
Our experience of employing Shayna has been very positive. She is a friendly, reliable and dedicated member of staff who has settled well into the team. The role is a great fit for her, as she did not want to work full-time and it would have been difficult for us to fill the role otherwise. Shayna has shown that despite her learning disability, she can carry out her job to a high standard and truly enjoys her work.
What would you say to other employers considering hiring someone with a learning disability?
We would encourage employers to keep an open mind and focus on a person’s strengths and potential. We were open to offering Shayna employment and in return we have a committed employee who comes in on time and gets the job done. We did make some small adjustments for example, a working interview which benefitted her and made sense for the job role.
How has working with the North Wales Supported Employment Service and CoOptions benefited your café and garden centre?
The support from the North Wales Supported Employment Service and CoOptions made the recruitment process straightforward and helped us identify the right candidate through a working interview. Having a job coach on hand to give us some extra support for Shayna has been of great benefit. We would recommend them to other employers without hesitation.
