Pontio

Gweithio Gyda’n Gilydd i Wella Trosglwyddiadau i Oedolaeth

Mae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd wedi derbyn cais gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i arwain y gwaith ar Brotocolau Pontio ledled Gogledd Cymru. Y nôd yw sicrhau bod pobl ifanc ag anableddau dysgu yn profi trosglwyddiad llyfn ac wedi’i gefnogi i fyd oedolaeth.

Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:

  • Casglu a chymharu protocolau pontio o bob rhan o’r rhanbarth
  • Mapio tebygrwydd a bylchau i sicrhau bod yr holl feysydd allweddol yn cael eu cynnwys
  • Cydweithio gyda theuluoedd i sicrhau bod y protocolau’n glir, yn hygyrch ac yn hawdd i’w defnyddio

Rydym ar hyn o bryd yn cefnogi nifer o Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru i ddiweddaru eu Protocolau Pontio. Bydd Grŵp Llywio yn cael ei sefydlu unwaith y bydd y gwaith cychwynnol hwn wedi’i gwblhau er mwyn arwain y camau nesaf.

Prosiect Pontio Teuluoedd – Conwy Connect

Cefnogi Pobl Ifanc a Theuluoedd Drwy Gamau Pontio Bywyd
Ers 2020, mae Cyswllt Conwy wedi bod yn darparu Prosiect Pontio Teuluoedd, fel cynllun peilot i ddechrau ond mae bellach ar gael ar draws Gogledd Cymru. Mae’r gwasanaeth hwn yn cefnogi pobl ifanc 14-25 oed a’u teuluoedd wrth iddynt symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.

Mae’r prosiect yn cynnig:

  • Un pwynt mynediad i drosglwyddo gwybodaeth drwy eu Canolbwynt Gwybodaeth
  • Cymorth un i un, yn canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Grwpiau cymunedol a chyfleoedd rhwydweithio cymdeithasol i deuluoedd a phobl ifanc
  • Y nôd yw gnwneud cyfnodau pontio’n fwy esmwyth, yn fwy gwybodus ac yn fwy cysylltiedig.


🗓️ This project is funded until 31 March 2026.

Scroll to Top