Gweithgareddau a Phrosiectau a Ariennir

Gweithgareddau Chwarae Meddal (i Blant 0-7 Oed) a’u Teuluoedd

Sesiynau Chwarae Hwyliog a Chynhwysol i Blant Ifanc a Theuluoedd ar Ynys Môn.

Roedd Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn ariannu sesiynau chwarae meddal ar Ynys Môn i blant 0-7 oed gydag anableddau dysgu a’u teuluoedd. Dyluniwyd y sesiynau hyn i:

  • Greu mwy o gyfleoedd i blant chwarae a chymdeithasu y tu allan i’r ysgol
  • Annog brodyr a chwiorydd i fwynhau gweithgareddau gyda’i gilydd mewn lleoliadau cynhwysol, prif ffrwd.
  • Helpu teuluoedd i gysylltu, rhannu profiadau, a chefnogi ei gilydd mewn amgylchedd hamddenol


Roedd Cydlynydd Cymorth i Deuluoedd o Mencap yn bresennol ym mhob sesiwn i gynnig arweiniad, cefnogaeth a gwybodaeth yn ôl yr angen.

Ariannwyd y prosiect hwn hyd at 31 Mawrth 2025.

Tu Hwnt i Ffiniau Gogledd Cymru

Datblygu Anturiaethau Awyr Agored Cynhwysol.

Fe ariannodd Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anableddau gydag Ymddiriedolaeth Bendrigg yn Kendal ar gyfer darparwyr awyr agored a gweithgareddau ar draws Gogledd Cymru.

Roedd yr hyfforddiant hwn yn ymateb i angen a nodwyd gan ddarparwyr a oedd eisiau cynnig profiadau mwy cynhwysol i blant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu.

O ganlyniad, crëwyd y Fforwm Tu Hwnt i Ffiniau Gogledd Cymru. Mewn partneriaeth â’r Bartneriaeth Awyr Agored a’r Fenter Beyond Bendrigg, mae’r fforwm yn:

  • Rhannu arferion gorau ymysg darparwyr awyr agored
  • Nodi anghenion hyfforddiant yn y dyfodol
  • Archwilio cyfleoedd am gyllid
  • Hyrwyddo gweithgareddau awyr agored cynhwysol


Y nod yw cynyddu mynediad at weithgareddau awyr agored i blant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu ar draws Gogledd Cymru.

Scroll to Top