Stori Natalie

Amdanaf i.

Fy enw i ydi Natalie, ac rydw i’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Arlwyo ar gyfer Arlwyo Newydd. Rydw i’n fam sengl ac wrth fy modd yn treulio amser gyda fy mhlant. Mae gennyf i ffrindiau da iawn a byddaf yn treulio fy amser rhydd gyda nhw; nhw ydy fy nghylch cefnogaeth. Rydw i wrth fy modd gydag anifeiliaid ac mae gennyf i gathod.

Cyn y Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth…

Roeddwn i’n gweithio o’r blaen, ond mae hynny tuag 8 mlynedd yn ôl, felly roeddwn i’n eithaf pryderus am fynd yn ôl i gyflogaeth am dâl. Roeddwn i eisiau gweithio, i helpu i greu bywyd gwell i’r plant, i roi rhywfaint o arian ychwanegol i mi ei wario arnyn nhw, ond hefyd i ddangos iddyn nhw y byddwn i’n gallu gweithio a bod yn fam dda yr un pryd.

Mae gennyf i rai ffrindiau da sy’n gefnogol iawn, felly dydw i ddim yn unig, ond roeddwn i’n teimlo fy mod i eisiau gweithio a theimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth.

Man cychwyn fy siwrnai.

Roeddwn i wedi gwneud cais am swydd ac wedi cael cyfweliad. Fe gefais i’r swydd ond roeddwn i braidd yn bryderus am sut y byddai fy ngwahaniaethau dysgu i’n effeithio arnaf i, a doeddwn i ddim wedi gweithio ers rhyw 8 mlynedd. Roeddwn i’n siarad efo ffrind a oedd wedi defnyddio HFT i’w helpu i ddod o hyd i waith; fe roddodd rif Sarah (EPC) i mi ac fe wnes innau ei ffonio hi. Fe wnes i gyfarfod â Sarah ac fe drefnodd hi i mi gyfarfod â Sam (hyfforddwr swyddi HFT). Aeth Sarah gyda mi i weld Cyngor ar Bopeth i drafod fy mudd-daliadau.

Y gefnogaeth a gefais.

Fe wnaeth Sarah, fy Nghydlynydd Llwybrau Cyflogaeth, fy helpu i – fe drefnodd i gyfarfod i drafod beth oedd ei angen arnaf i, fe ddaeth efo fi i’r ganolfan Cyngor ar Bopeth a threfnu i mi gyfarfod â Sam.

Roeddwn i wedi cael cynnig y swydd, ond doedden nhw ddim yn rhoi unrhyw sifftiau i mi gan fy mod i ar gontract gweithiwr wrth gefn. Siaradodd Sam ag Adnoddau Dynol ac egluro fy sefyllfa, a gan fy mod i’n dal i beidio â chael unrhyw sifftiau, dyma ni’n dechrau edrych am gyfleoedd gwaith eraill hyd yn oed. Wedyn fe gysylltodd Sam efo nhw am y tro olaf i frwydro dros roi’r cyfle i mi ddangos beth allwn ei wneud, a’r wythnos wedyn fe gefais yr alwad ffôn cyntaf i wneud sifft.

Fe ffoniais i Sam i ddweud y newyddion da wrthi, ond roeddwn i hefyd yn nerfus a phryderus iawn am fynd. Fe ffoniodd Sam fi a’m cefnogi i drwy gydol y dydd. Roedd hi’n credu ynof i, ac roedd hynny’n dangos. Ar ôl fy sifft olaf, fe wnaethant ofyn i mi weithio pob diwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener) am dair wythnos yn syth ar ôl ei gilydd.

Canfod y swydd iawn i mi.

Rydw i wir wedi mwynhau fy swydd; mae fy hyder ynglŷn â gwneud y swydd wedi tyfu’n aruthrol, a dyma’r swydd iawn i mi. Rydw i wedi cael ambell i dro trwstan – cogydd nad oedd yn glên iawn gyda fi a phroblemau gyda fy nghyflog cyntaf.

Fe ffoniais i Sam i adael iddi wybod, ond roedd yr hyder gennyf i ddelio efo’r rhain fy hun, ac maen nhw bellach wedi eu datrys. Roedd gweithio 5 niwrnod yr wythnos yn dechrau mynd yn ormod i mi, yn arbennig gyda’r teithio’r oedd yn rhaid ei wneud. Maen nhw rŵan wedi cynnig contract parhaol i mi, i weithio 2 awr bob dydd (dydd Llun i ddydd Gwener) mewn siop leol y mae fy merch yn mynd iddi. Mae’r aelodau staff eraill yn gefnogol iawn, ac rydw i eisoes wedi cael cynnig mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol y tu allan i’r gwaith gyda nhw.

Sut mae cael swydd wedi gwneud i mi deimlo.

Rydw i’n teimlo’n well ynof i fy hun, mae fy iechyd meddwl wedi gwella. Rydw i wedi gwneud cais i leihau fy oriau er mwyn fy iechyd, ac maen nhw wedi gwneud hynny. Rydw i’n teimlo’n falch fy mod i’n bod yn fodel rôl da i fy mhlant. Dydw i ddim wedi cael unrhyw gefnogaeth gan fy nheulu, ond mae fy ffrindiau wedi dweud eu bod yn gweld gwahaniaeth ynof i – rydw i’n gwenu mwy, rydw i’n hapus, a dydw i ddim mor ddagreuol ag yr oeddwn i gynt.

Sut mae pethau’n mynd erbyn hyn.

Mae pethau’n mynd yn dda iawn; rydw i wedi setlo yn fy swydd, ond rydw i hefyd wedi dweud wrth fy nghyflogwr fy mod i’n hapus mynd i leoedd newydd a gwneud sifftiau ychwanegol os oes angen. Roedd y dechrau’n araf, ac roeddwn i’n meddwl tybed a fyddwn i fyth yn cael sifft. Rydw i’n meddwl eu bod nhw’n poeni am fy anableddau i, ond fe ddadleuodd Sam dros roi cyfle i mi, ac rydw i rŵan wedi profi iddyn nhw fy mod i’n gallu gwneud hyn, a’i wneud yn dda.

Fe fûm yn siarad gyda fy rheolwr am gwblhau fy NVQ lefel 1, ac rydym wedi cytuno i ystyried hyn ymhen rhyw 6 mis.

Os ydi rhywun yn meddwl am gael cefnogaeth i ganfod gwaith, byddwn yn dweud…

Mae’n bendant yn werth ei wneud. Mae fy hyfforddwr swyddi yn fy nghefnogi i; fe wnaeth hi ddyfalbarhau a dyna sut y cefais i sifft yn y diwedd. Mae’n gallu bod yn anodd gwneud hyn ar eich pen eich hun; mae’r cymorth a’r gefnogaeth rydych chi’n eu cael yn bendant yn werth chweil.

Scroll to Top