Stori Megan

Amdanaf i.

Fy enw i ydi Megan, ac rydw i’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Cegin yn Nyffryn Nantlle. Rydw i’n mwynhau mynd am dro, mynd i’r sinema neu’r theatr, chwarae gemau fideo a mynd ar wyliau.

Cyn ymuno â’r gwasanaethau cyflogaeth â chymorth…

Roeddwn wedi gweithio mewn canolfan arddio leol am wyth mlynedd, ond achosodd newid i’r rheolwyr llawer o straen i mi, ac roeddwn yn anhapus iawn. Pan roeddwn i’n absennol o’r gwaith gyda straen, fe wnes i sylweddoli fod angen i mi ganfod swydd newydd. Awgrymodd fy mrawd Phil, a ffrind fy chwaer, Ceri, y ddau yn gweithio i Yrfa Cymru, Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru. Cysylltodd fy Mam ag Agoriad Cyf, a chysylltodd Robyn â Sian (EPC). Trefnodd Sian atgyfeiriad drwy’r gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd, a roddodd gyfle i fy ngweithiwr cymdeithasol gyfle i sgwrsio gyda fi a fy nheulu.

Man cychwyn fy siwrnai.

Daeth Siân i fy ngweld yn fy nghartref - roeddem eisoes yn adnabod ein gilydd o’n plentyndod. Fe helpodd fi i wneud cais am gerdyn bws, a fy n nghefnogi i hawlio Credyd Cynhwysol, a oedd yn anodd oherwydd nid oeddwn wedi bod yn ddi-waith o’r blaen. Nid oedd y staff yn y Ganolfan Waith yn garedig iawn, felly daeth Sian gyda mi er mwyn esbonio fy sefyllfa. Fe wnaethon nhw drefnu i mi weld yr un person bob tro, ychwanegu caniatâd i fy mam siarad ar fy rhan, a threfnu apwyntiadau fideo bob pythefnos.

Canfod y swydd iawn i mi.

Yna cyflwynodd Siân fi i Gwenan (hyfforddwr swyddi Agoriad Cyf), a chawsom gyfarfod yn fy nghartref. Dywedais wrthi fy mod eisiau gweithio mewn cegin, a fy mod yn mwynhau glanhau. Daeth Gwenan o hyd i swydd lanhau a oedd yn cael ei hysbysebu ar wefan Cyngor Gwynedd, a chefais gefnogaeth ganddi gyda’r cais a’r cyfweliad. Ni chefais y swydd honno, ond gwnaethon nhw gynnig swydd dros dro i mi yn Ysgol y Groeslon. Roeddwn i wrth fy modd, a gwnes i’n dda.

Pan ddaeth y swydd honno i ben, cefais gynnig swydd Cynorthwy-ydd Cegin yn Nyffryn Nantlle. Dechreuais gyda naw awr yr wythnos, gan gael oriau glanhau ychwanegol yn yr un ysgol. Rŵan, rydw i’n gweithio dros ugain awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener.

Sut mae cael swydd wedi gwneud i mi deimlo.

Rydw i’n teimlo’n hapus, heb straen. Mae dod o hyd i swydd yn anodd, yn enwedig canfod un yr ydych chi’n ei mwynhau.

Rwy’n mwynhau fy swydd newydd, ac rwy’n teimlo’n llawer gwell.Mae wedi rhoi’r hyder i mi ddechrau canlyn eto!

Sut mae pethau’n mynd erbyn hyn.

Gwych!

Mae Gwenan yn galw heibio o dro i dro. Rydym yn cael sgwrs ac yn siarad am sut mae pethau’n mynd. Rydw i’n gweithio ar fod yn fwy hyderus a sut i ofyn am adborth gan fy rheolwr hen gefnogaeth.

Os ydi rhywun yn meddwl am gael cefnogaeth i ganfod gwaith, byddwn yn dweud…

Byddwch yn amyneddgar a bydd popeth yn iawn.

Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth, mae’r swydd iawn ar y gorwel!

Rydw i wrth fy modd gyda fy swydd newydd. Mae’r shifftiau yn fy siwtio. Rydw i rŵan yn gweithio bob dydd, Dydd Llun i ddydd Gwener. Roedd yn anodd peidio gweithio am 6 mis ond rydw i nôl yn ei chanol hi erbyn hyn!

Feedback from Megan’s employer 

What has been your experience of employing Megan?

Since joining the school, Megan has become a valued member of the team. Her positivity, enthusiasm and commitment make a real difference every day, and her work as a Kitchen Assistant and Cleaner helps create a safe and welcoming environment for pupils and staff. She is well-liked by colleagues, and we are proud of the contribution she makes to our school community.

What would you say to employers considering hiring someone with a learning disability?

I would encourage employers to look beyond perceived barriers and focus on an individual’s strengths and abilities. Our experience has shown that people with learning disabilities can be highly motivated, loyal and eager to contribute. They bring a positive attitude to the workplace and can have a significant impact on team morale. With the right support, they can thrive and become a real asset to any organisation.

How has working with the North Wales Supported Employment Service and Agoriad Cyf benefited your school?

Working with Agoriad Cyf has been a very positive experience. The support provided was excellent, helping Megan settle into her role and become an important member of our team. The experience has demonstrated the value of inclusive employment and the positive difference it can make to the workplace.

Scroll to Top