Stori Lewis

Amdanaf i.

Fy enw i ydi Lewis, a dw i’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Cynhyrchu yn Hufenfa De Arfon. Rydw i’n mwynhau gwylio rygbi, mynd allan i gymdeithasu, garddio a thyfu fy llysiau fy hun.

Cyn ymuno â’r gwasanaethau cyflogaeth â chymorth…

Roeddwn yn mynd i’r coleg ac yn parhau gyda fy nghwrs, er nad oeddwn yn mwynhau bod yno. Dim ond ychydig o amser oedd gen i ar ôl yno ac roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n bwysig i mi orffen beth ddechreuais i.

Ar yr un pryd, roeddwn hefyd yn cael fy nghyflogi gan Derwen fel cynorthwy-ydd cymorth er nad oeddwn wedi cael cynnig unrhyw oriau gweithio ers i reolwr newydd ddechrau yno. Roeddwn yn byw’n hapus adref gyda fy rhieni ac roeddwn eisiau dechrau datblygu dyfodol mwy annibynnol drwy gyflogaeth â thâl.

Man cychwyn fy siwrnai.

Awgrymodd y Pennaeth yn Hafod Lon fy mod yn edrych i mewn i gefnogaeth i ganfod gwaith cyflogedig drwy Wasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru. Roeddwn yn gwybod fy mod eisiau cael cyflogaeth â thâl, gan nad oeddwn yn mwynhau yn y coleg ac eisiau rhywbeth mwy ymarferol ac annibynnol. Cefais gyfarfod gyda Sian (EPC) yn swyddfeydd y Cyngor ym Mhwllheli. Roedd gen i gyfrif banc a Rhif Adnabod yn barod, ac roedd fy mam yn deall fy sefyllfa budd-daliadau. Ond roeddwn yn ansicr ac yn nerfus am fynd amdani.

Canfod y swydd iawn i mi.

Cyflwynodd Sian mi i Rhys (hyfforddwr swyddi Agoriad Cyf). Unwaith i Rhys ddechrau fy nghefnogi, fe ddechreuodd pethau ddisgyn i’w lle, ac roeddwn i’n teimlo’n llawer mwy pendant a hyderus am beth yr oeddwn i eisiau ei wneud.

Cefais gefnogaeth Rhys i geisio nodi’r math o swyddi fyddai’n fy siwtio yn seiliedig ar fy niddordebau a sgiliau. Un o’r pethau cyntaf a wnaethon ni gyda’n gilydd oedd holiadur paru swyddi a helpodd fi i nodi’r gwahanol fathau o waith a fyddai’n fy siwtio. Yn ystod y broses a thrafodaethau gyda Rhys, daeth yn glir fod gen i ddiddordeb mewn gwaith ffatri.

Helpodd Rhys fi i drefnu lleoliad gwaith ar fy nghyfer yn Hufenfa De Arfon. Cefais gefnogaeth 1-1 gan Rhys drwy gydol y lleoliad, gan fy helpu i setlo, dysgu arferion, magu hyder a deall beth oedd yn ddisgwyliedig ohonof. Hyd y lleoliad oedd 8 wythnos, a helpodd fi i ennill profiad, a rhoi cyfle i mi roi cynnig ar y math hwn o waith. Dros amser, daeth yn glir fod y math hwn o swydd yn fy siwtio i’n dda a chefais gynnig swydd am dâl!

Sut mae cael swydd am dâl wedi gwneud i mi deimlo.

Mae cael swydd wedi gwneud i mi deimlo’n llawer hapusach, yn fwy hyderus ac yn fwy annibynnol. Cyn dechrau’r rhaglen, roeddwn yn teimlo’n nerfus am fynd amdani, ond unwaith nes i ddechrau’r lleoliad, daeth popeth ynghyd, ac roeddwn yn teimlo llawer mwy cyfforddus mewn amgylchedd gwaith.

Rhoddodd rywbeth positif i mi ganolbwyntio arno ac rydw i’n teimlo’n falch o’r hyn rydw i wedi’i gyflawni. Roedd gwybod y byddwn yn gweithio ochr yn ochr â Huw, rhywun rydw i wedi’i adnabod ers blynyddoedd, hefyd o gymorth, ac fe wnaeth y broses o setlo yn haws a helpu i ddatblygu fy hyder.

Rydw i’n teimlo’n fwy positif am fy nyfodol ac yn hapus fy mod wedi dod o hyd i waith sy’n fy siwtio.

Sut mae pethau’n mynd erbyn hyn.

Mae pethau’n mynd yn dda iawn, ac mae Rhys yn parhau i fy nghefnogi i fagu fy hyder a gweithio’n annibynnol.

Er fy mod i’n dal i fod angen rhywfaint o gefnogaeth 1 i 1 gyda rhai tasgau, rydw i’n teimlo fy mod wedi gwneud llawer iawn o gynnydd ac wedi cyflawni rhywbeth pwysig i mi fy hun.

Os ydi rhywun yn meddwl am gael cefnogaeth i ganfod gwaith, byddwn yn dweud…

Byddwn i yn sicr yn argymell y Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru i unrhyw un sy’n meddwl am gael cefnogaeth i ddod o hyd i waith. Mae’r rhaglen wedi fy helpu i symud i gyflogaeth â thâl sydd wedi fy ngwneud yn hapus iawn ac yn fwy annibynnol. Mae’r gefnogaeth gan Rhys wedi bod yn wych, ac mae cael rhywun yn fy arwain cam wrth gam wedi gwneud popeth i deimlo llai llethol.

Feedback from Lewis’ employer

What has been your experience of employing Lewis?

Lewis has become a respected member of our team since joining the company. He brings enthusiasm and a positive outlook to his work each day. Colleagues enjoy working with him, and he has shown that talent, commitment, and attitude are far more important than any perceived barriers. 

What would you say to other employers considering employing a person with a learning disability? 

Employing a person with a learning disability has been a very positive experience for our company and we would encourage other employers to consider the many benefits it would also bring to them. Our experience has shown that, with the right support, individuals with learning disabilities can make a valuable and lasting contribution to an organisation.

How has working with the North Wales Supported Employment Service and Agoriad Cyf benefited your company?

Employing someone through Agoriad Cyf has been a highly positive experience for our company. The North Wales Together Supported Employment Service provided valuable support throughout the recruitment and employment journey, making the process straightforward and helping us create the right environment for Lewis to succeed. This partnership has strengthened our commitment to diversity and inclusion while fostering a more positive and supportive workplace culture.

Scroll to Top