Mae cael lle da i fyw yn bwysig i bawb. Weithiau, gall fod yn anodd i bobl sydd ag anableddau dysgu ddod o hyd i’r lle cywir i fyw. Er enghraifft, gwyddom, ar draws y DU;
• Ychydig iawn o oedolion gydag anableddau dysgu sy’n berchen ar eu cartrefi eu hunain
• Yn aml mae oedolion sydd ag anableddau dysgu yn aros i fyw gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’r teulu nes eu bod yn hŷn nag y byddai pobl eraill.
• Mae yna dal lawer o bobl sydd ag anableddau dysgu sydd yn byw mewn llety gofal preswyl fel eu prif gartref hirdymor.
Gall hyn olygu fod ganddynt lai o arian i’w wario a llai o ddewis o ran ble maen nhw’n byw a gyda phwy maen nhw’n byw.
Gwasgwch y botymau isod i gael mwy o wybodaeth.
Press the buttons below for more information
Yn 2022, cynhaliwyd ymarfer i flaenoriaethu’r hyn sy’n bwysig i blant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru, gan wneud yn siŵr bod eu lleisiau nhw a lleisiau eu teuluoedd yn cael eu clywed. O ganlyniad, crëwyd ffrwd waith newydd yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc.
The key areas identified for North Wales Together to work on include Life After School, Transition, Activities, Information, Accommodation, and Respite.
Helpu pobl gydag anableddau dysgu i deimlo’n rhan o’u cymuned.
Rydym eisiau i bobl gydag anableddau dysgu fwynhau bywyd yn eu hardal leol - gwneud pethau hwyliog, cwrdd â phobl newydd a theimlo’n rhan.
Rydym yn gweithio gyda grwpiau lleol i sicrhau bod mwy o weithgareddau a llefydd lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt.
Mae cadw’n iach yn bwysig i ni gyd. Gall pobl ag anableddau dysgu wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gadw’n ffit ac iach. Maen nhw hefyd yn gallu cael trafferth derbyn y gofal iechyd sydd arnyn nhw ei angen.
Mae’r rhaglen yn gweithio gyda chydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella gwasanaethau iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl gydag anableddau dysgu. Darllenwch am ein gwaith yma.
Mae pobl ag anableddau dysgu’n dweud bod ar eu staff angen hyfforddiant gwell i ddarparu’r gefnogaeth gywir ar gyfer bywyd da. Mae cefnogaeth dda’n digwydd pan mae staff yn rhannu gwerthoedd cadarnhaol, yn meddu ar y sgiliau cywir i ddiwallu anghenion pob person, a phan mae’r gefnogaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar y pethau sydd fwyaf pwysig iddynt.
Yn yr adran hon, fe welwch wybodaeth ac adnoddau i helpu pawb i ddarparu’r gefnogaeth gywir.
Y nod yw helpu pobl gydag anableddau dysgu i gael mynediad cyfartal at gyflogaeth â thâl, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a chyfrannu i gymdeithas.
Bydd Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth ar gyfer Pobl gydag Anableddau Dysgu yng Ngogledd Cymru (2024-2029), a luniwyd mewn cydweithrediad â phobl gydag anableddau dysgu a Phartneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru, yn cael ei roi ar waith trwy Wasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru.
Ei nod yw ceisio darparu llwybr clir ar gyfer unrhyw un 14+ oed gydag anableddau dysgu i gael mynediad at gymorth i ddod o hyd i waith â thâl
Nod y ffrwd waith Technoleg yw gwella bywydau unigolion ag anableddau dysgu trwy ddatrysiadau digidol arloesol, gwella hygyrchedd, annibyniaeth ac ansawdd bywyd.