Stand a Chyswllt Conwy - Gweithgareddau’r Gorllewin
Mewn partneriaeth â STAND Gogledd Cymru, mae Cyswllt Conwy yn cynnal gweithgareddau cymunedol yng Ngorllewin Gogledd Cymru hyd at Ragfyr 2025.
Yn debyg i’r Prosiect Sparc yn y Dwyrain, mae’r gwaith yn cynnwys plant ac oedolion gydag anableddau dysgu mewn ystod eang o weithgareddau lleol. Caiff y gweithgareddau hyn eu cyd-gynhyrchu gyda dinasyddion a gofalwyr, i helpu adeiladu cyfeillgarwch, hyder a rolau cymunedol.
Nodau’r Prosiect:
- Creu gweithgareddau cymunedol cynhwysol
- Adeiladu perthnasau a rhwydweithiau personol
- Tyfu sgiliau a dyheadau
- Cyflawni rolau cymunedol cyfrifol
- Gwella iechyd a lles emosiynol
- Cadw cysylltiad a derbyn gwybodaeth trwy lwyfan rhannu gwybodaeth ddwyieithog
- Cydnabod a gwobrwyo cyfraniadau dinasyddion a gofalwyr

Rydym wedi cwblhau adroddiad ddiwedd prosiect gweithgareddau Conwy Connect yn y Gorllewin. Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad yma:
