Outside Lives - Gweithgareddau’r Dwyrain
Ariannom y Prosiect Sparc yng Ngogledd Ddwyrain Cymru hyd at Fehefin 2025. Mae’n bartneriaeth rhwng Outside Lives a’r grŵp Safonau Gwasanaethau Wrecsam.
Mae’r prosiect yn cynnwys plant ac oedolion gydag anableddau dysgu mewn ystod eang o weithgareddau cymunedol. Caiff y gweithgareddau hyn eu cyd-gynhyrchu gyda dinasyddion a gofalwyr, gan helpu pobl i adeiladu cysylltiadau, cyfeillgarwch a rolau ystyrlon yn eu cymunedau.
Trwy wrando ar bobl, gofalwyr a phartneriaid, nod y prosiect yw:
- Cryfhau cysylltiadau cymunedol
- Adeiladu rhwydweithiau personol
- Tyfu sgiliau a hyder
- Cefnogi lles emosiynol
- Rhannu gwybodaeth hygyrch a chlir
Mae’r Prosiect Sparc yn annog ‘meddwl heb orwelion’ - gan ganolbwyntio ar unigoliaeth pobl a chymryd dull cyfannol tuag at gynhwysiant.

Rydym wedi cwblhau adroddiad cyllido diwedd prosiect gweithgareddau “Outside Lives” yn y Dwyrain. Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad yma:
