Making Sense
Mae Making Sense yn elusen sy’n helpu pobl gydag anableddau dysgu i fwynhau amgueddfeydd, orielau a gofodau creadigol.
O 2019 hyd at Fawrth 2025, ariannom eu Gwasanaeth Parseli Synhwyraidd. Bob chwe wythnos, roedd canolfannau dydd ar draws Gogledd Cymru yn derbyn parsel arbennig yn llawn:
- Gwrthrychau synhwyraidd
- Synau ac aroglau
- Syniadau gweithgareddau creadigol
Mae’r parseli hyn wedi cael eu dylunio gan artistiaid proffesiynol ac yn ysbrydoli gweithgareddau megis tripiau dydd, gweithdai a chreu celf. Mae pobl yn y ganolfan ddydd yn Ninbych yn helpu i greu’r parseli hefyd - gan ei wneud yn brosiect hynod o gynhwysol.
Mae Making Sense hefyd yn gweithio gydag amgueddfeydd ac orielau lleol i wneud ymweliadau a gweithdai yn fwy hygyrch i bawb.

We have completed an end of project report for Making Sense’s Sensory Parcel Service. You can find the report here:
