Ffrindiau Gig
Mae Ffrindiau Gig Cymru yn brosiect cyfeillgarwch a gynhelir gan Anableddau Dysgu Cymru. Mae’n paru oedolion gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth gyda gwirfoddolwr sy’n rhannu’n un diddordebau.
Gyda’i gilydd, maent yn dod yn Ffrindiau Gig - yn mynd i gigs, digwyddiadau, neu fwynhau gweithgareddau cymdeithasol fel ffrindiau.
Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol, a all arwain at iechyd meddwl gwael. Mae’n ymwneud â chael hwyl, gwneud ffrindiau, a theimlo’n rhan o’r gymuned.
Ariannodd Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd y prosiect Ffrindiau Gig Cymru yng Ngogledd Cymru hyd at Fawrth 2025.

Rydym wedi cwblhau adroddiad cyllido diwedd prosiect Ffrindiau Gig Gogledd Cymru. Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad yma:
