Amdanom Ni

Sefydlwyd Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn 2019. Mae’n un o nifer o Raglenni Trawsnewid ar gyfer Gogledd Cymru. Rydym yn dilyn Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru. 

I ddechrau, cawsom ein hariannu gyda grant gan Raglen “Cymru Iachach” Llywodraeth Cymru. Rydym bellach yn cael ein hariannu drwy'r gronfa Integreiddio Rhanbarthol.  

Crëwyd y ffilm hon ar ddechrau ein rhaglen ac mae'n dangos yr hyn y bwriadwn ei gyflawni. 

Mae ein cyllid bellach wedi’i ymestyn tan 2027.

Cefndir cryno

Mae'r ffilmiau canlynol yn dangos yr hyn a wnaeth y rhaglen yn y blynyddoedd cynnar.

Gallwch weld gwerthusiad o gam cyntaf ein rhaglen:

Cwrdd â’r Tîm

Kathryn Whitfield

Rwyf wedi gweithio gyda phobl ag Anableddau Dysgu ers dechrau’r 1990au. Dechreuais trwy weithio fel Hyfforddwr Swyddi, ac yna fel Gweithiwr Cymdeithasol a Rheolwr Tîm. Mae gennym gynllun yng Ngogledd Cymru. Mae pobl ag Anableddau Dysgu wedi dweud wrthym beth sy’n bwysig iddyn nhw.

Maen nhw eisiau cartrefi da, perthnasoedd, swyddi, iechyd corfforol a meddyliol da a chyfle i fod yn rhan o’u cymunedau.

Rwy’n ffodus iawn o gael bod yn rhan o’r tîm a’r gymuned ehangach sy’n mynd ati i wneud yn siŵr bod y pethau hyn yn gallu digwydd i bobl ag Anableddau Dysgu a’u teuluoedd yng ngogledd Cymru.

Belinda Bradley

Roeddwn wrth fy modd pan ymunais â thîm Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd ym mis Medi 2024. 

Rwyf wedi cymhwyso fel athrawes, ond rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn gweithio i elusennau, ac ers dros 30 o flynyddoedd rwyf wedi mwynhau gweithio a gwirfoddoli ochr yn ochr â phlant ac oedolion ag anableddau dysgu mewn amrywiaeth eang o swyddi.

Rwy’n byw yng Ngwynedd ac wrth fy modd â’r mynyddoedd. Dechreuodd fy angerdd am y ddau beth yma pan es i ar benwythnos gwersylla gyda phobl ifanc o ysgolion anghenion arbennig yn 12 oed.

Edrychais i ddim yn ôl ar ôl hynny! Ar ôl cyflwyno ac arwain Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) ar gyfer elusen genedlaethol dros y deng mlynedd diwethaf, rwyf bellach yn gweithio ochr yn ochr â Jonathon Crabbe i gefnogi hyn ledled Gogledd Cymru. 

Ochr yn ochr â hyn, byddaf yn cefnogi’r gwaith o gynllunio llety, yn enwedig lle mae anghenion pobl yn fwy cymhleth i gynllunio ar eu cyfer, gan helpu ein nyrsys Anabledd Dysgu Cymunedol yng Ngogledd Cymru i brofi ffyrdd o gefnogi pobl yn gynt a gweithio ar brosiectau ledled y rhanbarth sy'n anelu at wella'r 'gefnogaeth gywir' i bobl ag anableddau dysgu.

Jeni Andrews

Rwyf wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd ers 25 mlynedd.

Roeddwn yn arfer helpu pobl i hawlio budd-daliadau. Yna, gweithiais gyda phobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd yn Sir Ddinbych i gynllunio gwasanaethau cymorth.

Rwyf wir eisiau helpu i wella cefnogaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru, a sicrhau eu bod yn cael byw bywydau da.

Rwy'n gobeithio y bydd y Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu yn helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i'r ffordd y mae pobl yn gweld pobl ag anableddau dysgu.

Kim Killow

Ymunais â thîm rhanbarthol Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd yn 2019 yn fuan ar ôl symud i Ogledd Cymru o'r Alban.

Yn yr Alban, gweithiais am dros 20 mlynedd yn y sector cymorth cyflogaeth. Fy angerdd oedd sicrhau bod pobl ag anableddau yn cael mynediad cyfartal at y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt i fod mewn cyflogaeth â thâl. Gan hynny roeddwn wrth fy modd pan ddechreuais arwain y Llif Gwaith Cyflogaeth â Chymorth yn 2021.

Mae hyn yn ei dro wedi fy ngalluogi i ganolbwyntio'r angerdd hwnnw ar sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu ledled Gogledd Cymru yn cael yr un cyfleoedd â gweddill y boblogaeth i fod mewn cyflogaeth ystyrlon â thâl.

Paul Mazurek

Rwyf wedi gweithio ym maes Anableddau Dysgu ers dros 34 mlynedd.

Ers y 15 mlynedd diwethaf rwyf wedi bod yn Gyfranogwr Gofal Cymdeithasol fel rhan o Dîm Anableddau Cymhleth Sir Ddinbych, sef yr hen Dîm Anableddau Dysgu.

Rwyf wedi meithrin dealltwriaeth ymarferol a phrofiad da o nifer o asiantaethau a disgyblaethau sydd yn gysylltiedig ag Anableddau Dysgu, ac wedi cefnogi nifer o feysydd, gan gynnwys Teleofal a Thaliadau Uniongyrchol.

Byddaf yn archwilio cwmpas y defnydd o gymwysiadau presennol a'r angen am gymwysiadau newydd yn ogystal ag ymchwilio i ddatblygiad cymwysiadau sgrinio iechyd a theleiechyd.

Rwy'n gyffrous i fod yn rhan o’r prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu, gan symud y strategaeth Anableddau Dysgu ymlaen ar gyfer y dyfodol i hyrwyddo a gwella bywydau pobl ag Anableddau Dysgu.

Stephanie Hall

Astudiais Seicoleg ac mae gen i brofiad fel Gweithiwr Cefnogi ac Arweinydd Tîm i bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth, anableddau corfforol a phroblemau iechyd meddwl.

Yn ddiweddarach, treuliais dros ddegawd yn gweithio yn y System Cyfiawnder Troseddol cyn ymuno â Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd yn 2020. Rwy'n mwynhau gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau dysgu a'm nod yw eu helpu i fyw eu bywydau gorau.

Ar hyn o bryd, rwy'n monitro ein prosiectau cymunedol a byddaf yn dychwelyd i’r ffrwd waith Plant a Phobl Ifanc yn 2025.

Sioned

Mae gen i brofiad helaeth o weithio gydag unigolion ag anableddau dysgu a'u teuluoedd a'u gofalwyr ar draws Gogledd Cymru, ar ôl treulio blynyddoedd lawer mewn rolau gan gynnwys Swyddog Eiriolaeth, Swyddog Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, a Swyddog o fewn y Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.

Fel rhiant balch i unigolyn ifanc ag anableddau dysgu, mae gen i ddealltwriaeth broffesiynol a phersonol fel rhan o'm gwaith. Rwy'n arwain ffrwd waith Plant a Phobl Ifanc o fewn Prosiect Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd.

I am proud to be part of the North Wales Together team, and I am deeply committed to ensuring that services, people with learning disabilities, and their parents and carerswork in genuine partnership to transform  support and services in North Wales so that children and adults with learning disabilities can lead better, more fulfilling lives.

Helen

Rwyf wedi gweithio i'r awdurdod lleol ers dros 15 mlynedd ac ymunais â thîm Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd ar ddechrau 2020 fel Swyddog Cefnogi Busnes yn cefnogi'r tîm a'r prosiectau.

Gan fod gen i frawd ag Anableddau Dysgu, rwyf wedi gweld manteision gwaith â thâl a'r effaith y mae'n ei chael ar unigolion a'u teuluoedd yn uniongyrchol.

Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, dechreuais rôl newydd fel Swyddog Monitro Rhanbarthol ar gyfer Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru ochr yn ochr â Kim Killow, gwasanaeth rwy'n angerddol amdano. 

Bwrdd Rhaglen

Mae’r Bwrdd Rhaglen yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi chwe awdurdod lleol y gogledd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bwriad y Bwrdd yw cyrraedd nodau Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru.

Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am gynllunio a monitro gweithgareddau’r tîm rhaglen ar ran Grŵp Partneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

I gyrraedd ein nodau yn effeithiol, mae’r Bwrdd Rhaglen yn sicrhau bod:

  • Cyfeiriad strategol clir a chyson: Rydym yn canolbwyntio ar ein hamcanion hirdymor.
  • Arweinyddiaeth gref ac atebolrwydd: Cynhelir arweinyddiaeth gadarn ac mae cyfrifoldebau pawb yn glir.
  • Ymrwymiad i ansawdd: Rydym yn ceisio gwella ansawdd ein gwaith yn barhaus.
  • Gwaith tîm a chydweithio: Rydym yn meithrin ysbryd gwaith tîm, cydweithio a phartneriaeth
  • Rheoli risg: Rydym yn nodi a rheoli risgiau yn rhagweithiol
  • Gwneud penderfyniadau deallus: Mae ein penderfyniadau yn seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth gywir.

Mae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Bwrdd Rhaglen. Mae'r Bwrdd yn monitro ein cynlluniau prosiect, gan sicrhau ein bod yn gosod ac yn cyrraedd y targedau cywir. 

Gweler cylch gorchwyl y bwrdd prosiect isod:

Aelodau Bwrdd y Rhaglen

  • Craig Mcloud. Gyngor Sir y Fflint
  • Michael Williams. Cynrychiolydd Dinasyddion a Chyd-gadeirydd. 
  • Nichaela Jones. Pennaeth Gweithrediadau (dros dro). Anableddau Dysgu. BIPBC. Noddwr Prosiect. 
  • Gethin Morgan. Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol. 
  • Kathryn Whitfield. Rheolwr Rhaglen, Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd 
  • Karen Chambers. Uwch Reolwr. Sir y Fflint. 
  • Jennie Lewis. Cynrychiolydd Rhieni sy’n Ofalwyr. 
  • Jacqui Caldwell. Cynrychiolydd Rhieni sy’n Ofalwyr. 
  • James Lewis, Cynrychiolydd Dinasyddion. 
  • Cynrychiolydd Cymdeithasau Tai. Sedd wag. 
  • Alison Cowell. Iechyd Plant a Phobl Ifanc BIPBC. 
  • Jonathan Davies. Cyfrifydd. 
  • Lisa Smith. Swyddog Cefnogi Cyllid. 
  • Nicola Stubbins. Cyfarwyddwr. Sir Ddinbych. 
  • Michael Reay. Rheolwr Gwasanaeth, Sir Ddinbych.  
  • Catrin Perry. Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
  • Ramona Murray/ Ffion Edwards Roberts. Rheolwr Gwasanaeth. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. 
  • Aled Davies. Pennaeth Gwasanaeth. Gwynedd
  • Llinos Rowlands. Cyngor Gwynedd 
  • Arwel Owen. Pennaeth Gwasanaeth. Ynys Môn.
  • Fon Owen. Cyfarwyddwr. Ynys Môn.
  • Ceri H Jones. Rheolwr Gwasanaeth, Ynys Môn. 
  • Tracy Jones. Pennaeth Gwasanaeth. Wrecsam. 
  • Claire Higgins, Anheddau. 

Hoffai Kathryn Whitfield a gweddill y tîm ddiolch i'r bwrdd am eu cyngor, eu harweiniad a'u cefnogaeth barhaus. Mae eu dyfalbarhad a’u hymrwymiad i amcanion y strategaeth wedi bod yn hynod o werthfawr. Hoffem ddiolch hefyd i Sarah Bartlett a'r uned Cydweithio Rhanbarthol, a Dr Ceryl Davies o Brifysgol Bangor, gan na fyddai’r strategaeth yn bodoli hebddyn nhw.

Scroll to Top